Y Pwyllgor Cyllid

 

Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 2 - y Senedd

 

 

 

Dyddiad:

Dydd Iau, 2 Hydref 2014

 

 

 

Amser:

08.30 - 12.44

 

 

 

Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://www.senedd.tv/Meeting/Archive/1c459908-dc3d-4f34-a126-3ae2d0e685dd?autostart=True

 

 

Cofnodion Cryno:

 

 

 

Aelodau’r Cynulliad:

 

Jocelyn Davies AC (Cadeirydd)

Peter Black AC

Christine Chapman AC

Mike Hedges AC

Alun Ffred Jones AC

Ann Jones AC

Julie Morgan AC

Nick Ramsay AC

 

 

 

 

 

Tystion:

 

Y Fonesig Rosemary Butler AC, Llywydd

Claire Clancy, Y Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad

Nicola Callow, Comisiwn y Cynulliad

Jane Hutt AC, Y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth

Jo Salway, Llywodraeth Cymru

Matt Denham Jones, Llywodraeth Cymru

Jeff Andrews, Cynghorydd Polisi Arbenigol, Llywodraeth Cymru

 

 

 

 

 

Staff y Pwyllgor:

 

Bethan Davies (Clerc)

Meriel Singleton (Ail Clerc)

Tanwen Summers (Dirprwy Glerc)

 

Don Peebles (Cynghorwr Arbenigol)

Martin Jennings (Ymchwilydd)

 

 

 

<AI1>

1    Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2015-16: Adroddiad rhag-gyllidebol gan y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA)

1.1 Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio gan Don Peebles, Cynghorwr Arbenigol.

 

</AI1>

<AI2>

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod.

</AI2>

<AI3>

2    Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

2.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r Pwyllgor.

 

2.2 Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

</AI3>

<AI4>

3    Papurau i’w nodi

3.1 Nodwyd y papurau.

 

</AI4>

<AI5>

3.1  Cyllideb Atodol 2014-2015: Ymateb Llywodraeth Cymru

 

</AI5>

<AI6>

4    Cyllideb ddrafft Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2015-16

4.1 Roedd Peter Black AC yn absennol ar gyfer yr eitem hon ac eitem 8 gan ei fod yn aelod o Gomisiwn y Cynulliad.

 

4.2 Bu’r Aelodau yn craffu ar gyllideb ddrafft Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2015-16 gyda'r Fonesig Rosemary Butler AC, y Llywydd a Chadeirydd y Comisiwn, Claire Clancy, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad a Nicola Callow, Pennaeth Cyllid.

 

4.3 Cytunodd y Llywydd i godi'r mater ynghylch tywyswyr yn casglu nodiadau Aelodau o'r Siambr i helpu gyda Chofnod y Trafodion yn y cyfarfod nesaf. Hefyd, ymrwymodd i ymchwilio i'r posibiliadau o ran opsiynau teithio amgen ar gyfer ymweliadau addysgol gan ysgolion.

 

4.4 Cytunodd Claire Clancy i edrych ar y materion hawlfraint sy'n ymwneud â'r adroddiad Ymddiriedolaeth Garbon a sicrhau ei fod ar gael i'r Aelodau os yn bosibl ac i ddarparu gwybodaeth i'r Pwyllgor ynghylch pwy sy'n berchen Tŷ Hywel.

 

</AI6>

<AI7>

5    Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2015-16: Sesiwn dystiolaeth 1

5.1 Bu'r Pwyllgor yn craffu ar waith y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2015-16.

 

5.2 Nododd y Cadeirydd y byddai'n gofyn i'r pwyllgor perthnasol i archwilio gyda'r Gweinidog portffolio os bydd y toriadau i'r rhaglen Cefnogi Pobl yn cael eu cyflwyno yn gyfartal ar draws Cymru, neu a fydd rhai ardaloedd cael toriadau mwy.

 

5.3 Cytunodd y Gweinidog i:

 

·         ddarparu nodyn i'r Pwyllgor yn egluro'r sefyllfa o ran ardrethi annomestig ar yr amod nad yw'n tanseilio trafodaethau gyda Llywodraeth y DU;

 

·         rhannu â'r Pwyllgor rhywfaint o'r cyngor cynnar y mae'r Llywodraeth wedi ei gael ar y broses o ddatganoli treth dir y dreth stamp;

 

·                                    cadarnhau'r trefniadau ar gyfer dyrannu arian i Awdurdodau Lleol yn benodol ar gyfer y gwasanaethau cymdeithasol;

 

·                                    darparu ragor o wybodaeth i'r Pwyllgor am y posibilrwydd o gael porth sgiliau i oedolion mewn perthynas â gwasanaeth Gyrfa Cymru;

 

·                                    gwirio cyhoeddi gwerthusiad ar y Grant Amddifadedd Disgyblion a rhoi manylion i'r Pwyllgor; a

 

·                                    rhoi manylion i'r Pwyllgor am gyllid buddsoddi-i-arbed.

 

</AI7>

<AI8>

6    Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol:

6.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

</AI8>

<AI9>

7    Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2015-16: Trafod y dystiolaeth a gafwyd

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd.

 

</AI9>

<AI10>

7.1  Ymatebion i'r Ymgynghoriad - Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2015-16

 

</AI10>

<AI11>

8    Cyllideb Ddrafft Comisiwn y Cynulliad 2015-16: Trafod y dystiolaeth a gafwyd

8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a nodi y bydd adroddiad drafft yn cael ei baratoi i'w drafod yng nghyfarfod y Pwyllgor a drefnwyd ar gyfer 8 Hydref 2014.

 

</AI11>

<AI12>

9    Bil Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru): Gohebiaeth y Pwyllgor

9.1 Bu’r Pwyllgor yn trafod yr ohebiaeth.

 

</AI12>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

 

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>